Ein cymorth ar waith

Rydyn ni’n ymateb i argyfwng yn y DU bob pedair awr. Boed yn dân mewn cartref neu’n argyfwng cenedlaethol ar raddfa fawr, gallwch gysylltu â ni 24/7.

Digwyddiadau lle rydyn ni’n darparu cymorth

  • Argyfyngau ar raddfa fach gan gynnwys tanau a llifogydd domestig a gweithrediadau yn erbyn masnachu pobl.
  • Amharu ar gyfleustodau gan gynnwys toriadau pŵer, toriadau nwy a dŵr.
  • Argyfyngau ar raddfa fawr gan gynnwys ymosodiadau terfysgol, argyfyngau iechyd, achosion o ddadleoli a mudo a thywydd garw.

 

Ehangu’r cymorth 

Rydyn ni’n gallu ehangu ein hymateb yn dibynnu ar yr angen. Gall argyfyngau daro unrhyw bryd ac unrhyw le. Gall y Groes Goch Brydeinig fod yno i roi cymorth i unrhyw un sy’n cael ei effeithio. Rydyn ni’n darparu'r bobl, yr offer, y gofod a'r adnoddau i gefnogi'r rhai sy’n cael eu heffeithio gan argyfwng, a’u helpu i adfer.

Cefnogi argyfyngau ar raddfa fach

Pan fydd unigolion yn cael eu heffeithio gan danau neu lifogydd mewn tai, gall fod yn brofiad gofidus iawn. Nid yn unig y mae pobl wedi colli eu cartrefi a'u heiddo gwerthfawr ond mae diogelwch eu hunain a'u teulu wedi'i beryglu. 

Flood waters inside a home.

Yn yr enghreifftiau gofidus hyn, efallai y byddwn ni yno i:

  • Ddarparu cymorth seicogymdeithasol

    Gall ein timau Ymateb mewn Argyfwng fod yno i ddarparu cymorth seicogymdeithasol i’r bobl sydd wedi’u heffeithio. Mae ein gwirfoddolwyr wedi’u hyfforddi mewn CALMER, model cymorth sy'n helpu pobl sy'n wynebu trallod gan brofiadau trawmatig, i gael eu clywed a'u cefnogi mewn ffordd ddigynnwrf, diogel, dibynadwy a grymusol. 
  • Darparu gwybodaeth ac arweiniad
    Gall ein gwirfoddolwyr roi arweiniad am y camau nesaf yn dilyn tân neu lifogydd domestig, a allai gynnwys cyfeirio at yswiriant a llety yn ogystal â grymuso defnyddwyr i reoli eu hadferiad eu hunain.

    Gall ein timau hefyd gyfeirio at wasanaethau’r Groes Goch, lle nodir angen ychwanegol. Er enghraifft, drwy gyfeirio pobl at ein gwasanaeth llogi cadair olwyn. Mae ein Llinell Gymorth hefyd yn darparu gwybodaeth gyfeirio ychwanegol ar ôl y digwyddiad, gan gynnwys gwasanaethau lleol, gwasanaethau’r Groes Goch Brydeinig a chymorth emosiynol parhaus lle bo angen.
  • Darparu cymorth ymarferol
    Ar ôl argyfwng, efallai bod pobl wedi colli llawer o'u heiddo, gan gynnwys hanfodion hollbwysig bob dydd. Gall y Groes Goch Brydeinig ddarparu cymorth ymarferol dros dro lle bo angen.

    Os yw teulu wedi cael eu gwacáu o’u cartref ganol nos oherwydd tân neu lifogydd, ac na fyddan nhw’n  gallu dychwelyd adref am gyfnod, efallai y bydd y Groes Goch Brydeinig yn gallu darparu cymorth ymarferol fel dillad, pecynnau hylendid neu gymorth ariannol cyfyngedig i ddiwallu eu hanghenion uniongyrchol.

DARLLEN ASTUDIAETH ACHOS

 

 

Cymorth yn ystod achosion o amharu ar gyfleustodau

Gall tarfu ar gyfleustodau gael effaith ddofn ar unigolion. Ar y gorau, gallan nhw darfu ar fywyd bob dydd, ar ei waethaf gallan nhw beryglu bywydau. Gallwn gynnig cymorth boed yn deulu sydd wedi bod heb ddŵr tap ers dyddiau, cwpl oedrannus heb nwy i wresogi neu unigolyn sy'n feddygol ddibynnol heb bŵer.

Red Cross volunteers stand outside man's house following Storm Arwen.

Drwy gydweithio ochr yn ochr â chwmnïau cyfleustodau, gallwn:

  • Ddarparu cymorth seicogymdeithasol
    Drwy ddefnyddio ein model CALMER, gall ein gwirfoddolwyr gynnig cymorth emosiynol yn bersonol drwy gwblhau asesiadau ar y stryd a gwiriadau drws-i-ddrws ar les unigolion.

    Rydyn ni hefyd yn gallu cynnig cymorth o bell, drwy gynnig galwadau gwirio lles sydd nid yn unig yn cefnogi lles emosiynol yr unigolyn, ond sydd hefyd yn amlygu anghenion posib y dylai’r cwmni cyfleustodau eu blaenoriaethu.
  • Darparu cymorth ymarferol
    Yn ystod toriad yn y cyfleustodau, gall pobl fod heb wres, dŵr neu drydan. Gallwn ddarparu blancedi i helpu i gadw pobl yn gynnes, dosbarthu dŵr a bwyd a chynnig cymorth emosiynol.

  • Darparu gwybodaeth ac arweiniad 
    Wrth ddarparu cymorth wyneb yn wyneb drwy gnocio ar ddrysau neu gymorth lles o bell, gall ein gwirfoddolwyr hefyd sicrhau bod gwybodaeth gywir yn cael ei throsglwyddo i unigolion pan fydd toriadau yn y cyfleustodau. Gallai gwirfoddolwyr y Groes Goch Brydeinig ddosbarthu taflenni neu roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa, gan sicrhau bod pobl yn cael y wybodaeth ddiweddaraf drwy gydol yr argyfwng.

Cefnogi yn ystod argyfyngau ar raddfa fawr

Gall trychinebau ac argyfyngau ar raddfa fawr fod ar sawl ffurf wahanol. Gallai fod yn ddigwyddiad terfysgol neu'n ddigwyddiad ar raddfa fawr fel tân Tŵr Grenfell. Yn y sefyllfaoedd hyn, caiff cymunedau cyfan eu heffeithio.

Hazard zone yellow tape with first responder in background at fire.

Gan weithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol neu ymatebwyr categori 1 a 2, gall y Groes Goch Brydeinig:

  • Ddarparu cymorth seicogymdeithasol
    Boed mewn canolfan cymorth dyngarol, canolfan orffwys, canolfan i deuluoedd a ffrindiau neu mewn gwylnos, mae ein gwirfoddolwyr ymateb ar frys wedi'u hyfforddi i ddarparu cymorth seicogymdeithasol i unigolion sydd wedi’u heffeithio gan argyfyngau. Gan ddefnyddio ein model CALMER, bydd timau’n sicrhau bod unigolion yn cael cymorth pwrpasol sydd wedi’i lywio gan drawma.
  • Darparu cymorth ymarferol
    Yn dilyn trychineb neu argyfwng ar raddfa fawr, gallai unigolion fod heb fynediad i’w hanfodion bob dydd. Efallai y bydd y Groes Goch Brydeinig yn gallu cefnogi’r broses o ddosbarthu eitemau ymarferol a chynnig cymorth ariannol lle bo'n briodol.
  • Darparu gwybodaeth ac arweiniad 
    Wrth ddarparu cymorth wyneb yn wyneb drwy gnocio ar ddrysau neu gymorth lles o bell, gall ein gwirfoddolwyr hefyd sicrhau bod gwybodaeth gywir yn cael ei throsglwyddo i unigolion pan fydd toriadau yn y cyfleustodau. Gallai gwirfoddolwyr y Groes Goch Brydeinig ddosbarthu taflenni neu roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa, gan sicrhau bod pobl yn cael y wybodaeth ddiweddaraf drwy gydol yr argyfwng.

    Gall timau hefyd sicrhau bod unigolion yn gallu cael mynediad at y cymorth cywir yn dilyn argyfwng drwy eu cyfeirio at sefydliadau allanol lleol neu wasanaethau’r Groes Goch lle bo angen.

Deg peth nad oeddech chi'n gwybod ein bod ni'n eu gwneud mewn argyfyngau yn y DU

Roedden ni yno ar gyfer dioddefwyr Grenfell, fe wnaethon ni sefydlu cronfeydd ar ôl bomio Arena Manceinion. Rydyn ni’n cerdded drwy’r dŵr pan fydd llifogydd yn codi...a llawer mwy. 

DARLLEN ERTHYGL

Emergency response truck parked to block flooded street.

Unrhyw gwestiynau?

Os hoffech fwy o wybodaeth am y cymorth y gallwn ei gynnig yn ystod argyfyngau, gallwch e-bostio’r Tîm Ymateb mewn Argyfwng ar CRT@redcross.org.uk.

E-bostiwch ni