Datblygiad Proffesiynol Parhaus i athrawon ac addysgwyr
Dewch o hyd i gyrsiau DPP am ddim i athrawon ac addysgwyr pobl ifanc, sy’n cynnig hyfforddiant, adnoddau addysgu a chymorth gan fentoriaid yng nghyswllt pynciau dyngarol.
Atgyfnerthwch eich addysgu gyda DPP am ddim
Rydyn ni’n falch o gynnig DPP am ddim i athrawon ac addysgwyr ieuenctid drwy raglen beilot sy’n canolbwyntio ar addysg ddyngarol.
Mae’r rhaglen hon wedi’i llunio ar gyfer addysgwyr sy’n gweithio gyda phobl ifanc 11-18 oed, ac mae’n darparu DPP am ddim i’ch helpu i fod yn hyderus wrth fynd i’r afael â phynciau anodd fel gwrthdaro, cymorth cyntaf, mudo, hinsawdd a gwydnwch.
Gyda mynediad at amrywiaeth o adnoddau addysgu am ddim, gallwch integreiddio'r gwersi hyn i'ch ystafell ddosbarth yn gyflym ac yn rhwydd.
Ar hyn o bryd rydyn ni’n cynnig tri chwrs yn ein cynllun peilot ar gyfer y rhaglen newydd hon:
- Addysgu sgiliau Cymorth Cyntaf
- Addysgu am Ryfel a Gwrthdaro
- Addysgu am Fudo
Bydd addasu i’r hinsawdd a meithrin gwydnwch yn cael eu hychwanegu fel pynciau ac yn cael eu rhyddhau drwy gydol 2025.
Bydd y rhaglen hon yn eich helpu i feithrin y sgiliau, yr wybodaeth a'r hyder i addysgu pynciau heriol ac ysbrydoli eich myfyrwyr drwy addysg ddyngarol.
Cofrestrwch nawr i gael:
- hyfforddiant DPP am ddim sydd ar gael drwy e-ddysgu a sesiynau digidol/wyneb yn wyneb
- adnoddau addysgu o ansawdd uchel am ddim i'w defnyddio yn eich ystafell ddosbarth
- cymorth parhaus gan gydlynwyr addysg profiadol
Angen rhagor o fanylion? Cysylltwch â ni:
redcrosseducation@redcross.org.uk
0344 412 2734
Ar gyfer pwy mae’r cyrsiau DPP?
Mae ein cyrsiau DPP yn ddelfrydol ar gyfer:
- athrawon ysgol uwchradd ac addysgwyr pobl ifanc 11-18 oed, yn enwedig mewn pynciau fel ABGI, Dinasyddiaeth, Llenyddiaeth Saesneg, Daearyddiaeth ac Addysg Grefyddol
- addysgwyr mewn colegau sy'n cefnogi myfyrwyr hyd at 18 oed
- gweithwyr ieuenctid sy’n gweithio gyda phobl ifanc 11-18 oed
- unigolion sy’n cefnogi pobl ifanc mewn lleoliadau addysg ffurfiol ac anffurfiol
Rydyn ni’n chwilio am bartneriaid, ysgolion, sefydliadau ieuenctid a darparwyr addysg, sy’n rhannu ein gweledigaeth o rymuso pobl ifanc drwy addysg ddyngarol. Os hoffech chi ymuno â’n cynllun peilot fel sefydliad, neu edrych ar sut gallwn ni weithio gyda’n gilydd, cysylltwch â ni yn:
redcrosseducation@redcross.org.uk
0344 412 2734
Ymunwch â'n dosbarthiadau meistr misol
Fel rhan o'r cyrsiau DPP, cewch ddatblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth gyda'n dosbarthiadau meistr am ddim dan arweiniad arbenigwyr. Mae'r sesiynau 2 awr hyn yn edrych ar bynciau allweddol fel addysg cymorth cyntaf a mynd i’r afael â gwrthdaro yn yr ystafell ddosbarth. Mae pob sesiwn yn cynnwys amser i drafod a sesiwn holi ac ateb ac maent yn agored i addysgwyr unigol.
Fel arall, cysylltwch â ni os ydych chi’n awyddus i wneud archeb grŵp ar gyfer eich sefydliad.
Archebu sesiwn Dosbarth Meistr i Addysgwyr
Llunio DPP ar gyfer athrawon ac addysgwyr, gyda’n gilydd
Drwy gydol 2025, rydyn ni’n treialu’r rhaglen DPP newydd gyffrous hon. Mae eich cyfranogiad a'ch adborth yn y peilot hwn yn golygu y gallwn, gyda'n gilydd, greu'r DPP gorau ar gyfer addysgwyr.
Er mwyn ein helpu i ddatblygu ein cyrsiau, gofynnwn i chi wneud y canlynol:
- Cwblhau cydrannau’r cwrs: modiwl DPP sy’n datblygu sgiliau, modiwl DPP sy’n datblygu gwybodaeth, a defnyddio’r adnoddau addysgu.
- Rhoi adborth drwy ffurflenni gwerthuso, arolygon a grwpiau ffocws dewisol.
- Caniatáu i aelodau tîm y Groes Goch Brydeinig gysylltu â chi ynghylch eich cynnydd a’ch profiad.