Sut i baratoi ar gyfer llifogydd
Cyngor gan y Groes Goch Brydeinig ar sut i baratoi ar gyfer llifogydd.
Mae'r dudalen hon ar gael yn Saesneg (English).
Mae miliynau o bobl yn y DU yn byw ac yn gweithio mewn ardaloedd lle y mae perygl o lifogydd.
Cymerwch y camau hyn cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd i helpu i'ch cadw chi a'ch teulu yn ddiogel.
Cyn llifogydd
- Gwiriwch am rybuddion llifogydd lleol. Gallwch gael diweddariadau o newyddion ar y teledu ac ar radio lleol. Mae Gov.uk hefyd yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am lifogydd.
 - Os bydd perygl o lifogydd, rhowch wybod i'ch cymdogion. Dywedwch hefyd wrth bobl hŷn a'r rhai sy'n agored i niwed sy'n byw gerllaw.
 - Paratowch becyn argyfwng.
 - Pan fydd llifogydd, bydd galw mawr am fagiau tywod a thywod oddi wrth y masnachwyr adeiladu. Gellir eu defnyddio fel rhwystr i ddargyfeirio dŵr ac atal neu leihau difrod llifddwr (dŵr llifogydd) llifogydd. Prynwch dywod a bagiau tywod ymlaen llaw.
 - Symudwch gerbydau i dir uwch fel na chânt eu dal mewn llifddwr sy’n codi.
 - Tynnwch ffotograffau y tu mewn i'ch cartref. Gall hyn helpu gyda hawliadau yswiriant.
 - Diffoddwch y prif gyflenwad pŵer cyn i chi adael. Gallwch gael eich lladd gan drydan mewn llifogydd os gadewir y pŵer ymlaen.
 - Rhowch fagiau tywod mewn powlenni toiled i atal carthion rhag llifo’n ôl.
 - Caewch a chlowch ddrysau a ffenestri. Bydd hyn yn amddiffyn eich eiddo, ac mae’n bosibl y bydd yn lleihau maint y llifddwr sy'n dod i mewn i'r adeilad.
 - Ewch â'ch holl anifeiliaid anwes gyda chi pan fyddwch yn gadael fel na chânt eu dal yn y dŵr sy'n codi.
 
Yn ystod llifogydd
- Peidiwch â cherdded, nofio neu yrru drwy lifddwr. Gall chwe modfedd o ddŵr sy'n llifo'n gyflym eich bwrw chi drosodd. Gall dwy droedfedd o ddŵr beri i gar arnofio.
 - Peidiwch â cherdded ar amddiffynfeydd môr neu ar lannau afonydd.
 - Osgowch gysylltiad â llifddwr. Mae’n bosibl y bydd wedi'i halogi â charthion. Os byddwch chi'n dod i gysylltu ag ef , golchwch eich dwylo a'ch dillad yn drylwyr.
 - Peidiwch â gadael i'ch plant chwarae mewn llifddwr neu'n agos ato.
 - Oes angen i chi adael eich cartref a chithau heb unman i aros? Bydd eich cyngor lleol yn eich helpu.
 - I ddechrau, mae’n bosibl y cewch lety mewn lloches brys. Ond os na allwch ddychwelyd adref am gyfnod hir, gall eich cyngor eich helpu i ddod o hyd i rywbeth mwy addas.
 
Ar ôl llifogydd
- Gwaredwch unrhyw fwyd y mae’n bosibl y buodd yn y llifddwr.
 - Berwch ddŵr tap hyd nes y datgenir bod cyflenwadau yn ddiogel.
 
Mae llifogydd yn brofiad sy'n peri straen. Os oes angen cymorth arnoch, ffoniwch GIG 111 gan ddeialu 111. Fe ddywedan nhw wrthych chi am y gwasanaethau cymorth mewn argyfwng.
Mwy o help a chyngor
- Llifogydd, Cyfoeth Naturiol Cymru
 - Mae gan GOV.UK ganllaw ar lanhau ar ôl llifogydd.
 - Mae gennym becyn i athrawon ar sut i baratoi disgyblion ysgol gynradd ar gyfer argyfyngau tywydd, gan gynnwys llifogydd.
 - Dysgwch gymorth cyntaf fel y gallwch helpu i ddelio ag argyfyngau megis strôc, tagu a llosgiadau.
 - Mynnwch gyngor ar sut i ddarparu cymorth emosiynol mewn argyfwng a helpu pobl mewn trallod.
 
Ynglŷn ag interniaethau
Menyw yn cael cefnogaeth gwirfoddolwr y Groes Goch gyda phontio cartref i gartref