Paratoi pecyn argyfwng

Byddwch yn barod i ymdopi ag argyfwng.

Mae'r dudalen hon ar gael yn Saesneg (English).

Mae bod â'r offer cywir yn hanfodol mewn argyfwng.

Dyma beth ddylai fod yn barod gennych yn eich cartref, wrth symud o gwmpas ac yn eich car.

Pecyn cartref mewn argyfwng

  • Rhestr o rifau cyswllt mewn argyfwng. Dylai hyn fod ar gopi papur, rhag ofn y bydd eich ffôn symudol yn colli pŵer.
  • Fflachlamp batri a batris sbâr, neu fflachlamp y gallwch ei weindio.
  • Radio batri a batris sbâr, neu radio y gallwch ei weindio.
  • Pecyn cymorth cyntaf a meddyginiaeth hanfodol.
  • Cyflenwad tridiau o ddŵr potel a bwyd parod i'w fwyta na fydd yn pydru.
  • Copïau o ddogfennau pwysig, megis polisïau yswiriant a thystysgrifau geni. Cadwch y rhain mewn bag diddos.
  • Pensil, papur, cyllell boced a chwiban.
  • Allweddi sbâr i'ch cartref a i'ch car.
  • Sbectol neu lensys cyffwrdd sbâr.
  • Cyflenwadau anifail anwes a babanod os bydd angen.

Pecyn brys ar gyfer symud o gwmpas

  • Gwiriwch ragolygon y tywydd a phaciwch ddillad addas.
  • Bwyd sy'n barod i'w fwyta, diod gynnes mewn fflasg a dŵr potel.
  • Ffôn symudol a dyfais gwefru.
  • Unrhyw feddyginiaeth hanfodol.
  • Sbectol neu lensys cyffwrdd sbâr.
  • Cardiau credyd ac arian parod.
  • Rhestr o rifau cyswllt mewn argyfwng. Dylai hon fod ar gopi papur, rhag ofn y bydd eich ffôn symudol yn colli pŵer.
  • Cyflenwadau anifail anwes a babanod os bydd angen.

Pecyn argyfwng mewn car

  • Sgrafell iâ a hylif clirio iâ.
  • Rhaw eira.
  • Map rhag ofn bod angen i chi ffeindio’ch ffordd o gwmpas gwyriadau.
  • Blanced a dillad cynnes.
  • Pecyn cymorth cyntaf.
  • Fflachlamp batri a batris sbâr, neu fflachlamp y gallwch ei weindio.
  • Radio batri a batris sbâr, neu radio y gallwch ei weindio.
  • Gwifrau cychwyn car.

Mwy o help a chyngor