Pump o awgrymiadau i gynllunio ar gyfer argyfyngau

Ein cyngor gorau ar gyfer ymdopi ag argyfwng.

Mae'r dudalen hon ar gael yn Saesneg (English).

Yn ystod argyfyngau, gwrandewch yn ofalus bob amser ar gyngor y gwasanaethau brys a dilynwch eu cyfarwyddiadau.

Mae hefyd bethau y gallwch eu gwneud i baratoi ar gyfer argyfyngau cyn iddynt ddigwydd.

Yn gyntaf, llwythwch i lawer yr ap brys am ddim. Mae llawer o gyngor arno ar fod yn barod ar gyfer argyfyngau.

Dyma bum cam arall y gallwch eu cymryd i fod yn barod pan fydd argyfwng:

Dysgu cymorth cyntaf

Gall sgiliau cymorth cyntaf achub bywydau mewn argyfyngau. Rydym yn cynnig cyrsiau cymorth cyntaf ar draws y Deyrnas Unedig, a gallwch hefyd ddysgu am gymorth cyntaf ar-lein.

Llwythwch i lawer yr apiau Cymorth Cyntaf i Fabanod a Chymorth Cyntaf i Blant. Maen nhw'n ffynonellau gwerthfawr o gyngor mewn argyfyngau cymorth cyntaf.

Gwnewch restr o rifau pwysig

Gwnewch restr o rifau y bydd eu hangen arnoch mewn argyfwng. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau argyfwng lleol a'ch anwyliaid.

Argraffwch neu ysgrifennwch y rhifau hyn ar ddarn o bapur. Mae hyn rhag ofn nad ydych yn gallu defnyddio'ch ffôn symudol i wirio rhifau.

Dylech hefyd ysgrifennu i lawr eich cynllun gweithredu, gan gynnwys nodiadau atgoffa o'r pethau y dylech chi fynd â nhw gyda chi os bydd yn rhaid ichi adael eich cartref yn gyflym.

Gwnewch gynllun ar gyfer eich anwyliaid, pobl fregus ac anifeiliaid anwes

Mewn argyfyngau gall fod yn anodd dod o hyd i aelodau'ch teulu a ffrindiau sy'n byw gerllaw. Cytuno ar rywle i gyfarfod ymlaen llaw a fydd yn glir rhag unrhyw beryglon posibl.

Dylech hefyd feddwl am bobl hŷn a bregus sy'n byw gerllaw. Mewn argyfwng, mae'n bosibl y bydd arnynt angen eich help i gyrraedd diogelwch.

Dylech hefyd gynllunio o flaen llaw sut i amddiffyn eich anifeiliaid anwes ac anifeiliaid eraill, fel y byddwch yn gwybod yn union beth i'w wneud mewn argyfwng.

Gwybod sut i ddiffodd cyfleustodau

Mewn argyfyngau mae'n bosibl y bydd angen i chi ddiffodd y trydan, y nwy a chyflenwadau dŵr i'ch cartref neu fusnes.

Dysgu sut i wneud hynny o flaen llaw. Bydd hyn yn caniatáu i chi adael yr eiddo'n gyflym.

Dewiswch berson cyswllt y tu allan i'ch ardal leol

Siaradwch â'ch teulu. Dewiswch rywun y tu allan i'ch ardal leol i weithredu fel person cyswllt yn ystod argyfyngau.

Dylech chi i gyd ffonio'r un person i adael iddo/iddi wybod eich bod yn ddiogel. Gall y person hwnnw drosglwyddo negeseuon os nad ydych chi'n gallu cysylltu ag anwyliaid yn uniongyrchol.

Mwy o help a chyngor

Cael cyngor ar helpu plant a phobl ifanc i ymdopi ag argyfyngau yn ein hadran adnoddau addysgu.

  • Gweld ein hadnoddau dysgu ar-lein am ddim i alluogi plant a phobl ifanc i ddysgu cymorth cyntaf. Mae yna adnodd dysgu ar gyfer plant 5-11 oed ac 11 oed ac yn hŷn.
  • Mae'r Prosiect Gorchuddion Gobenyddiau yn rhaglen addysg i helpu plant 7 i 11 oed ddeall ac ymdopi ag argyfyngau'n ymwneud â'r tywydd ac ymateb iddynt.
  • Edrychwch ar ein hadnoddau ar-lein am ddim i helpu athrawon i siarad â phlant 5-11 ac 11-19 am argyfyngau mawr.
  • Mae ein hadnodd argyfwng ar gyfer athrawon yn dangos sut y gall athrawon helpu pobl ifanc mewn trallod.
  • Cael cyngor ar sut i ddarparu cymorth emosiynol mewn argyfwng ac i helpu pobl mewn trallod.