Sut i baratoi ar gyfer ymosodiadau terfysgol

Cyngor gan y Groes Goch Brydeinig ar sut i baratoi ar gyfer ymosodiadau terfysgol.

Mae'r dudalen hon ar gael yn Saesneg (English).

Mae ymosodiadau terfysgol yn digwydd heb rybudd. Er mwyn cael gwybod y newyddion diweddaraf, dylech gadw llygad ar lefelau bygythiad terfysgol y Llywodraeth.

Os ydych yn amau bod unrhyw weithred derfysgol, dylech ddilyn cyngor Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu: Rhedwch, Cuddiwch, Dywedwch.

Dylech chi hefyd gymryd camau cyn, yn ystod ac ar ôl ymosodiad:

Cyn ymosodiad terfysgol

  • Byddwch yn wyliadwrus. Bydd ymosodiadau terfysgol yn digwydd fel arfer mewn mannau cyhoeddus. Cadwch eich llygaid ar agor am ymddygiad, pecynnau neu gerbydau amheus.
  • Os oes gennych unrhyw bryderon neu amheuon, dywedwch wrth yr heddlu. Gallwch ffonio llinell gyfrinachol gwrthderfysgaeth yr Heddlu ar 0800 789 321.
  • Pan fyddwch mewn adeiladau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, gwnewch yn siŵr y gwyddoch lle mae'r allanfeydd argyfwng.

Yn ystod digwyddiad

  • Dewch o hyd i'r ffordd fwyaf diogel o adael yr ardal. Symudwch mor gyflym ac mor dawel ag y gallwch.
  • Os bydd tân, dylech aros yn isel at y llawr ac ymadael cyn gynted â phosibl. Gorchuddiwch eich trwyn a'ch ceg â chadach gwlyb os gallwch wneud hynny. Os yw'r drws yn boeth wrth gyffwrdd ag ef, peidiwch â'i agor.
  • Os bydd ffrwydrad y tu allan i adeilad, arhoswch y tu mewn. Cadwch draw oddi wrth lifftiau, y tu allan i'r drysau a ffenestri rhag ofn bod bom arall gerllaw.
  • Os gwelsoch y ffrwydrad neu unrhyw ymddygiad amheus, dywedwch wrth yr heddlu.

Ar ôl y digwyddiad

  • Helpwch bobl eraill gyda chymorth cyntaf os yw'n ddiogel gwneud hynny.
  • Dywedwch wrth yr heddlu os gwelsoch unrhyw beth a allai fod yn ddefnyddiol.
  • Os ydych chi'n pryderu am rywun annwyl, cysylltwch â'r heddlu.
  • Gallech fod yn dioddef o sioc ond heb sylweddoli hynny. Ewch i weld meddyg cyn gynted ag y bo modd.

Rhagor o help a chyngor