Skip to main content
British Red Cross homepage

Cymorth ymarferol

Rydyn ni’n dosbarthu ac yn cefnogi ymatebwyr eraill i ddosbarthu eitemau ymarferol fel dŵr, tortshis, lluniaeth a blancedi yn ystod argyfyngau.

Cymorth ymarferol y gallwn ei ddarparu mewn argyfwng

  • diodydd poeth a swm cyfyngedig o fwyd lle mae angen dŵr poeth
  • dosbarthu bwyd oer wedi'i selio (wedi'i brynu gan fudiadau partner)
  • dŵr yfed, dŵr poeth a lluniaeth
  • tortshis a blancedi
  • mae gan y rhan fwyaf o'n cerbydau hanfodion babanod fel teganau, tedis a detholiad bach o gewynnau 

Cerbydau

Mae gennym fflyd o gerbydau 4x4 yn barod i fynd i’r afael â’r amodau anoddaf. Rydyn ni hefyd yn gallu defnyddio cerbydau cyfathrebu sydd â'r dechnoleg ddiweddaraf. Mae’r defnydd o gerbydau yn dibynnu ar y digwyddiad.

Canolfannau gorffwys

Rydyn ni’n gweithio mewn canolfannau gorffwys ochr yn ochr â’n partneriaid i gefnogi pobl sydd wedi cael eu gwacáu neu eu dadleoli yn ystod ac ar ôl argyfwng.

Adnoddau ychwanegol

Mae ein hamrywiaeth o bartneriaethau corfforaethol yn rhoi mynediad i ni at adnoddau i helpu unigolion a chymunedau yn ystod ac ar ôl argyfwng.

Cymorth sy’n seiliedig ar arian parod

Yn dibynnu ar yr anghenion, gallwn ddarparu cymorth sy’n seiliedig ar arian parod i bobl mewn argyfwng. Gellir darparu'r cymorth sy'n seiliedig ar arian parod mewn munudau mewn sefyllfaoedd brys.

Cymorth ymarferol ar waith

Gallwn ddarparu cymorth ymarferol i bobl sydd wedi’u heffeithio gan amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan gynnwys llifogydd, tanau, ymosodiadau terfysgol, achosion o fasnachu pobl, argyfyngau iechyd, tarfu ar gyfleustodau ac argyfyngau trafnidiaeth.

Boed yn dân mewn cartref teuluol neu’n argyfwng cenedlaethol ar raddfa fawr, gallwch gysylltu â ni am gymorth 24/7.

Gweler enghreifftiau

Unrhyw gwestiynau?

Os hoffech fwy o wybodaeth am y cymorth y gallwn ei gynnig yn ystod argyfyngau gallwch e-bostio'r Tîm Ymateb mewn Argyfwng ar CRT@redcross.org.uk

E-bostiwch ni

Do you have a question about this page or want to give us feedback? Visit our Contact Us page.