Cael cymorth yn y cartref

Gallwch gael cefnogaeth a gofal gan y Groes Goch Brydeinig i'ch helpu i fyw'n annibynnol gartref neu pan fyddwch yn dychwelyd ar ôl aros yn yr ysbyty.

Mae'r dudalen hon ar gael yn Saesneg (English).

Os ydych chi'n dychwelyd o'r ysbyty rydym yn gwneud yn siŵr bod gennych bopeth sydd ei angen arnoch chi ar gyfer eich cyfnod 24 i 72 awr gyntaf yn ôl yn eich cartref.

Mae'n bosibl y byddwn ni wedyn yn darparu hyd at 12 wythnos o gymorth yn dibynnu ar lefel y cymorth sydd ei hangen arnoch.

Yr help y byddwch yn ei gael

Byddwn yn asesu'ch anghenion ac yn eich helpu i benderfynu pa amcanion rydych am eu cyflawni gyda'n help. Gallwn gynnig cymorth ymarferol ac emosiynol gan gynnwys:

  • cludiant adref o'r ysbyty
  • cludiant o ddrws i ddrws ar gyfer teithiau gofal iechyd hanfodol
  • help gyda thasgau bob dydd, e.e. casglu presgripsiynau a siopa cwmni
  • ailadeiladu hyder
  • helpu i drefnu i filiau gael eu talu
  • defnydd am gyfnod byr o gadair olwynion neu gymhorthion toiled
  • tylino’r dwylo, y breichiau a'r ysgwyddau (mewn rhai mannau yn y Deyrnas Unedig).

Mae ein gwirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant llawn er mwyn eich cynorthwyo i gyflawni'ch nodau.

Sut i gael help

Byddwch naill ai'n cael eich cyfeirio gan rywun arall, e.e. yr ysbyty, ymddiriedolaeth gofal sylfaenol neu'ch meddyg teulu, neu gallwch gysylltu â'ch gwasanaeth lleol eich hunan.

Dod o hyd i'ch gwasanaeth lleol

Cymorth i ofalwyr

Rydym yn cynnig cymorth ar gyfer gofalwyr mewn ychydig o leoliadau cyfyngedig yn y Deyrnas Unedig. Cysylltwch â'ch cefnogaeth leol yn y gwasanaeth cartref i weld beth rydym yn ei gynnig yn eich ardal.