Rhoddi yn eich cyflog

Mae gwneud rhodd rheolaidd trwy'ch cyflog i'r Groes Goch Brydeinig yn haws nag yr ydych chi'n meddwl.

Mae'r dudalen hon ar gael yn Saesneg (English).

Mae rhodd reolaidd yn eich cyflog i'r Groes Goch Brydeinig yn costio llai nag y meddyliwch.

Cymerir rhoddion o'ch cyflog cyn ichi dalu treth. Os byddwch chi'n addo rhoi £10 y mis, bydd yn costio dim ond £8 os ydych yn drethdalwr cyfradd sylfaenol.

Mae rhoddion rheolaidd yn rhoi ffynhonnell ddibynadwy o incwm i'r Groes Goch Brydeinig.

Mae hyn yn caniatáu inni ymateb yn gyflym i argyfyngau yn y Deyrnas Unedig a thramor.

Sut i roddi yn eich cyflog

  • Os byddwch yn ennill cyflog neu bensiwn ac mae'ch cyflogwr yn didynnu Cynllun Talu wrth Ennill (PAYE), gallwch roddi yn eich cyflog
  • Os yw'ch cyflogwr eisoes yn caniatáu rhoi drwy'r gyflogres, siaradwch ag ef ynghylch sefydlu'ch anrheg fisol.
  • Os nad yw'ch cyflogwr yn caniatáu rhoi drwy'r gyflogres mae'n hawdd iddo sefydlu'r cynllun drwy gysylltu â CAFFel arall, gallan nhw ddewis rhwng unrhyw un o Asiantaethau Rhoddi Drwy Gyflogres a Gymeradwyir gan CThEM.
  • Mae'n cymryd rhwng un a dau fis cyn i'r anrheg gyntaf gael ei chymryd o'ch cyflog. Peidiwch â phoeni os nad yw'ch rhodd yn ymddangos yn eich pecyn talu nesaf.
  • Maen hawdd stopio rhoddi neu newid y swm rydych yn ei roddi, yr unig beth sydd angen yw cysylltu â'ch adran gyflogres.
  • Newid swydd ac eisiau parhau i roddi drwy'ch cyflog? Bydd angen i chi sefydlu rhodd newydd drwy ddilyn yr un broses ag yr esbonnir uchod