Cyfleoedd i wirfoddoli

Gwirfoddolwch gyda'r Groes Goch Brydeinig a chewch lawer mwy nag yr hyn rydych yn ei roi. Cewch gwrdd â phobl newydd, dysgu sgiliau newydd a helpu eich cymuned.

Mae'r dudalen hon ar gael yn Saesneg (English).

Faint bynnag o amser sydd gennych a beth bynnag yw eich profiad, mae llawer o gyfleoedd i wirfoddoli yn y Deyrnas Unedig gyda'r Groes Goch Brydeinig.

Mae gwirfoddoli yn rhoi cyfle i chi gwrdd â phobl newydd, dysgu sgiliau newydd a helpu pobl i gael y cymorth sydd ei angen arnynt os bydd argyfwng.

Chwiliwch am gyfleoedd gwirfoddoli

Rhannu eich sgiliau

 

Bod yn yrrwr gwirfoddol

  • Os oes gennych drwydded yrru, gallech ein helpu i ddarparu cymorth i bobl sydd ei angen yn y cartref. Gallech ddarparu cymhorthion symudedd, casglu rhoddion neu ymuno â'n gwasanaeth cymorth cyntaf mewn digwyddiadau.

 

Bod yn gyfieithydd/cyfieithydd ar y pryd

  • Os ydych yn siarad iaith arall, gallech roi llais i bobl mewn angen drwy gefnogi ein gwasanaethau i ffoaduriaid neu wasanaethau olrhain teuluoedd.

 

Bod yn hyfforddwr gwirfoddol neu'n athro/athawes

  • Os oes gennych amser i rannu eich gwybodaeth, gallech helpu i hyfforddi cenhedlaeth newydd o ddyngarwyr.

 

Bod yn wirfoddolwr gweinyddol

  • Os ydych am helpu yn un o'n swyddfeydd neu gefnogi ein gwasanaethau, gallech chi wirfoddoli eich sgiliau gweinyddol.

 

Helpu pobl i gael cadair olwynion

  • Mae arnom angen gwirfoddolwyr i helpu i gael pobl i symud a chefnogi ein gwasanaeth llogi cadair olwynion. 

 

Helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches

  • Darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i ffoaduriaid, ceiswyr lloches a mudwyr sy'n agored i niwed.

 

Cefnogi pobl gartref

  • O wneud paned o de a chael sgwrs i helpu gyda siopa, gwirfoddolwch i helpu pobl i fyw'n annibynnol. 

 

Helpu i ddod o hyd i deulu sydd ar goll

  • Pan fydd teuluoedd yn cael eu gwahanu gan ryfel neu drychineb, rydym angen gwirfoddolwyr i helpu pobl sy'n olrhain perthnasau sydd ar goll.

 

Codi arian i ni

Mae gwirfoddolwyr codi arian yn ein helpu i gefnogi mwy o bobl. O drefnu abseilio noddedig i gyfrif arian parod mewn swyddfa, helpwch ni i godi arian hanfodol.

Chwiliwch am gyfleoedd gwirfoddoli


Helpu i fapio mannau mwyaf agored i niwed yn y byd

  • Mae ar Missing Maps angen gwirfoddolwyr i fapio rhai o’r aneddiadau mwyaf agored i niwed yn y byd. 
  • Cymrwch ran, trefnwch fapathon neu roddi heddiw. Nid oes angen unrhyw brofiad a gallwch hyfforddi eich hunan ar-lein. 

 

Cymryd rhan gyda Missing Maps

Manteision gwirfoddoli gyda ni

Gallwch ddisgwyl:

  • gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd rhywun
  • cael eich gwerthfawrogi a'ch parchu, pwy bynnag ydych a beth bynnag yw eich cefndir
  • cyfleoedd i ehangu eich rôl a dysgu sgiliau newydd
  • cydnabyddiaeth o'r sgiliau a'r profiad sydd gennych i'w cyfrannu i'r sefydliad
  • derbyn treuliau a gytunir allan o'ch poced eich hunan pan roddwch eich amser inni.

 

Yr amrywiaeth ehangaf o gyfleoedd gwirfoddoli

Gallech gysylltu teuluoedd ar draws cyfandiroedd neu wirfoddoli gyda'r henoed yn eich cymuned. 

Gallech helpu rhywun sydd wedi colli ei gartref mewn tân neu gael sgwrs gyda chwsmeriaid yn siop y Groes Goch. 

Ni waeth a ydych yn 15 neu'n 70 + oed gallwch gymryd perchnogaeth dros eich rôl gwirfoddoli eich hun.

 

Ymunwch â ni

  • Byddwch yn rhan o sefydliad dyngarol mwyaf y byd.
  • Cwrdd â phobl o'r un anian a fydd yn cynnal ein hegwyddorion sylfaenol.
  • Helpwch ni i gysylltu caredigrwydd dynol ag argyfwng dynol.
Mae dros 90 y cant o wirfoddolwyr yn falch o ddweud
iddynt wirfoddoli ar gyfer y Groes Goch Brydeinig 
Arolwg Pobl 2017

Gwirfoddoli dramor

Nid ydym fel arfer yn anfon gwirfoddolwyr o’r Deyrnas Unedig dramor - dysgwch pam.

Os ydych chi rhwng 18-30 oed, mae’n bosibl y bydd cyfleoedd gyda'n rhaglen wirfoddoli ryngwladol i bobl ifainc.

 

Cyfleoedd i bobl ifainc

Mae gwirfoddoli gyda'r Groes Goch yn cychwyn o 15 mlwydd oed. 

Os ydych yn chwilio am ffyrdd eraill i gymryd rhan, dysgwch am gyfleoedd i bobl ifainc.