Pam nad ydym yn anfon gwirfoddolwyr dramor

Darganfyddwch pam nad ydym yn anfon gwirfoddolwyr dramor ar ôl trychineb mawr.

Mae'r dudalen hon ar gael yn Saesneg (English). Ar ôl trychinebau mawr, mae pobl yn aml eisiau gwirfoddoli yn yr ardaloedd hynny. Ond nid dyma'r ffordd orau o gael cymorth lle mae ei angen. Mae 190 o Gymdeithasau Cenedlaethol yn y Groes Goch Ryngwladol a Mudiad y Cilgant Coch. Mae'r Groes Goch Brydeinig yn un o'r rhain. Gall pob Cymdeithas Genedlaethol dynnu ar ei gorff ei hun o wirfoddolwyr, felly nid ydym yn anfon gwirfoddolwyr dramor.

Mae ein dull gweithredu yn arbed amser ac arian hollbwysig, gan fod gan wirfoddolwyr lleol y fantais o siarad yr iaith, adnabod yr ardal a deall y diwylliant.

Gallwch gefnogi gwaith rheng flaen hollbwysig trwy wneud rhodd.


Rhai cyfleoedd i wirfoddoli dramor

Yr unig adeg y byddwn ni’n anfon gwirfoddolwyr i wledydd Ewropeaidd eraill yw trwy ein rhaglen gwirfoddoli ryngwladol i bobl ifainc sydd ar gyfer pobl ifanc 18 i 30 oed.

Chwiliwch am gyfleoedd gwirfoddoli

 

Os hoffech chi wirfoddoli dramor ewch i wefan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer gwirfoddoli, sydd â manylion sefydliadau sy'n anfon gwirfoddolwyr dramor.

Efallai yr hoffech ystyried cysylltu â Chymdeithas y Groes Goch neu’r Cilgant Coch yn y wlad sydd o ddiddordeb i chi. Mae’n bosibl gweld eu manylion cyswllt ar wefan yr IFRC.

 

Anfon staff cyflogedig dramor

Rydym yn ddarparwr blaenllaw o staff arbenigol dramor i:

 

Rydym hefyd yn darparu staff cyflogedig gyda sgiliau arbenigol i gefnogi prosiectau rhyngwladol mewn partneriaeth â Chymdeithasau Cenedlaethol eraill. Dysgwch fwy am sut i weithio i ni dramor.