Llogi comôd

Gallwch logi comôd, cadair toiled neu gymhorthion toiled gan y Groes Goch i'w defnyddio am gyfnod byr.

Mae'r dudalen hon ar gael yn Saesneg (English).

Gallwn ni ddarparu:

  • Comôd
  • sedd toiled
  • ffrâm toiled.

Gallwch hefyd brynu'r rhain oddi wrthym.

Sut mae'n gweithio

Gallwch ddod o hyd i'ch gwasanaeth lleol a chysylltu â nhw'n uniongyrchol.

Gallwch wedyn:

  • ymweld â'ch gwasanaeth lleol i gasglu eich comôd neu gymhorthion toiled
  • trefnu dosbarthu i'ch cartref (am ffi ychwanegol).

Dewch â rhyw ddull adnabod gyda llun arno, e.e. pasbort neu drwydded yrru, a thystiolaeth o'ch cyfeiriad.

Faint mae'n ei gostio

Rydym yn codi ffi fach am bot y comôd gan nad yw'n bosibl ei ailddefnyddio. Byddwn yn gofyn am gyfraniad ar gyfer offer eraill.

Dychwelyd eich comôd

Mae'n bwysig dychwelyd eich comôd neu gymhorthion toiled ar y dyddiad y cytunwyd arno. Nid oes angen ichi ddychwelyd pot y comôd.

Cysylltwch â'ch gwasanaeth lleol i drefnu dychwelyd eich comôd neu gymhorthion toiled.